• English
  • Cymraeg

Mae croeso i grwpiau ddefnyddio’r siop anrhegion yn ystod eu hymweliad â’r amgueddfa. Mae llawer o eitemau, am brisiau rhesymol iawn, sy’n addas ar gyfer plant ysgol. Dylai fod cyfle i’ch grŵp alw i mewn i’r siop anrhegion yn ystod eu hymweliad, os yw amser yn caniatáu.

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth paratoi bagiau anrhegion ymlaen llaw am unrhyw bris o’ch dewis chi. Gall hyn wneud yr ymweliad yn haws i ysgolion os yw amser yn brin. Os hoffech ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, cysylltwch â Rheolwr Blaen y Tŷ o leiaf wythnos cyn eich ymweliad a bydd yn gallu cynghori ar ddewis o eitemau addas i gydweddu â’r thema rydych yn ei hastudio. Bydd y bagiau’n barod i’w casglu ar ddiwedd eich ymweliad.

  • Isod ceir enghraifft o fag anrhegion syn costio £3.20 yr un. Mae’r eitemau’n cynnwys pen a phensil Ffaro, chwilen sgarab a llyfrnod papyrws.

Dyma rai o’r eitemau rydym yn eu cynnig yn y bagiau anrhegion.

  • Deunyddiau ysgrifennu – pennau, pensiliau, rwberi, creonau, pren mesur, llyfrnodau
  • Llyfrau – llyfrau lliwio, llyfrau ffeithiol ayb
  • Cardiau post, pecynnau lliwio, trosluniau beddrod, papyrws
  • Gemwaith – crogdlysau, modrwyau a breichledau Eifftaidd,
  • Cerfluniau a modelau – sgarabau, duwiau a duwiesau, pyramidiau, ancau, amwledau, cerrig moelyd.
  • A llawer mwy!

Gallwn ddarparu bagiau parti i blant hefyd. Ffoniwch Reolwr Blaen y Tŷ ar 01792 602660 am ragor o wybodaeth.

css.php